01.jpg

Eleri Mills: Egni - degawd o greadigrwydd

Oriel Davies 28 Medi i 18 Rhagfyr 2019 

Eleri Mills yw un o artistiaid mwyaf llwyddiannus Cymru. Yn ystod ei gyrfa o fwy na phedwar deg mlynedd, mae hi wedi cael llawer o uchafbwyntiau. Agorodd ei harddangosfa unigol 1995 yn Museu Tèxtil i d'Indumentària yn Barcelona, cyn teithio’r Deyrnas Unedig. Mae hi wedi arddangos yn rhyngwladol, gan ddangos gweithiau pwysig mewn dinasoedd mor bell i ffwrdd â Chicago, Kyoto, Łódź, Madrid, Tokyo ac Efrog Newydd. Mae sefydliadau mawr, gan gynnwys Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Oriel Gelf Whitworth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi prynu ei gwaith ar gyfer eu casgliadau parhaol. Enillodd y fedal aur yn Eisteddfod Genedlaethol 1987, ac mae hi wedi cwblhau llawer o gomisiynau o fri. Mae Eleri wedi arddangos gyda Chanolfan Grefft Rhuthun fel rhan o Collect, y ffair gelf ryngwladol a drefnir gan y Cyngor Crefftau, yn gyntaf o 2004 i 2008 yn Amgueddfa Victoria ac Albert ac yn fwyaf diweddar, yn 2017 a 2018 yn Oriel Saatchi Llundain.

Fodd bynnag, yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae bywyd wedi caniatáu i Eleri ganolbwyntio’n llwyr ar ei gwaith yn archwilio llwybrau creadigrwydd, yn ddiderfyn ac âg ymreolaeth lwyr. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar y ddegawd honno, ac yn adlewyrchu ar daith greadigol Eleri.

Wrth siarad am ei gwaith, mae Eleri bob amser yn dechrau gyda’r tir – yn ei geiriau ei hun - 'mae wastad wedi bod yno'. Yn ferch ffarm o galon Cymru, mae Eleri wedi’i gwreiddio ac yn gwbl gysylltiedig â'r tir, er nad yw fyth yn cael ei chyfyngu ganddo; mae yno, yn sicr, ond mae llawer o diroedd yn nhirwedd gweithiau Eleri, yn rhai gwir a dychmygol. Yn 2009, daeth y cynnig o arddangosfa unigol yn y Senedd â grŵp o weithiau at ei gilydd o dan y teitl 'Tirlun i dywysogion'. Cyflwynwyd y grŵp hwn o weithiau gan y Llywydd ar y pryd, Dafydd Elis-Thomas, ac roedd yn atseinio â hanes cyfoethog gorffennol ysbrydoledig Cymru. Ysgrifennodd "Mae tirwedd yn cael ei greu o hyd... Yna, ceir y broses o wneud y gwaith celf ei hun, a hynny mewn amryw o ffyrdd ond mewn modd sy'n drylwyr bob tro: y peintio, y llunio, y pwytho a'r gwaith print, sef y gwahanol gyfryngau y mae Eleri Mills yn eu defnyddio i arfer ei chrefft". Mae pedwarawd o ddarnau o’r arddangosfa hon yn cychwyn ein taith.

Yn 2011, arddangosodd ei phumed sioe unigol yn Oriel Thackeray, Llundain - y gwaith a fyddai’n arwain at wobr Llysgennad Cymru Greadigol. Mae gwobr ‘Llysgennad Cymru Greadigol ' Cyngor Celfyddydau Cymru yn wobr bwysig. Dechreuodd gyda phreswyliaeth yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ac yna, tri mis yn Manhattan, ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd yn ystod tymor y gwanwyn 2012. Fe barhaodd gydag arddangosfa yn Oriel Gelf Macy, Efrog Newydd ac yna, arddangosfa yn SOFA NYC (y ffair gelf ryngwladol ar gyfer Cerflunwaith, Gwrthrychau a Chelfyddyd Swyddogaethol) yn Park Avenue Armory.

Yn 2013, arweiniodd ei phrofiadau creadigol yn Efrog Newydd yn ogystal a chyfnod ôl-raddedig yn Aberystwyth yn arbrofi gyda phrint ac 'acetate' a phreswyliad yn Rhuthun at 'Voyages', sef ei chweched monograff yn Oriel Thackeray — meddai’r Athro Judith M Burton o Brifysgol Columbia -  "Eleri’s work is gloriously poetic; it is innovative and elegant, intuitive and investigatory. She opens for us a new kind of consciousness by offering an almost endless tapestry of passages through the threshold of her own passions.” 

Law yn llaw â hyn, oherwydd deucanmlwyddiant marwolaeth yr ysgrifennwr a thirluniwr Cambria Depicta, Edward Pugh, cafodd gyfle i fynd yn ôl i Rhuthun ar gyfer y preswyliad a’r arddangosfa "Windows on Wales". Roedd y darluniau ingol o ffyrdd cefn Dyffryn Clwyd ymhlith y delweddau o waith Eleri a gafodd eu dewis gan Cerys Matthews ar gyfer cyd-destun cyngerdd agoriadol Gŵyl WOMEX 2013 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ysgrifennodd David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru “The artist brings gestural mark and history together. Cerys said ‘I want that red line.’ … The staves of Eleri’s accomplished graphic art are lending themselves tonight to the weave of tunes and songs, on the stage of Land of Song.” 

Yn arddangosfa Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2014, dewiswyd Eleri i gyflwyno detholiad o ddarnau arbrofol ar 'acetate'. Dychwelodd i’w stiwdio yng nghanolbarth Cymru ym mis Mawrth 2015, a daeth 'Ancestral Landscapes' yn seithfed arddangosfa unigol iddi yn Oriel Thackeray. Unwaith eto, mae David Alston yn cipio ysbryd y gwaith “She lays just claim to the ancestral in her work. Few working with images of their land in contemporary Wales exhibit what might be termed this aboriginal instinct for a Welsh ”dreaming” – one that layers, an intuition of myth, strata, mapping and contouring, history and husbandry, weathering, light and atmosphere. [It] radiates simultaneity between surfaces and depths, between surface pattern and underlying structure…the recall is of both a view and a sort of personal mappa mundi…a layout of the land that is both physical and spiritual.”

Yn 2015, bu Eleri yn gadeirydd pwyllgor Celf Weledol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Roedd 'Borderland' 2017, a gyflwynwyd yn Oriel Thackeray, yn darlunio bywiogrwydd a thensiwn y dirwedd ar hyd ffin y Gororau, yn enwedig yn y grŵp o luniau pen ag inc ger Capel y Ffin – Yng ngeiriau Eleri ei hun "Mae 'Y Ffin' yn le ar yr ymylon, gwlad ryfedd sydd âg enaid a naws ei hun. Nid llefydd llonydd yw'r llefydd hyn..." mewn sawl ffordd, roedd Eisteddfod Meifod, Eisteddfod 'Y Ffin', yn gyfeiriadol yn y gwaith ymchwil sylfaenol i’r grŵp hwn o waith.

Yn 2018, datblygwyd preswyliad yng Nghastell Powis ar ôl i Eleri weithio ar ddehongliad sain yn y Gymraeg ar gyfer y prosiect Tŷ Portreadau gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a guradwyd gan Dr John Chu. Ysbrydolwyd y cyflwyniad hwn i nodi dychweliad parhaol y portread bychan gwych gan Isaac Oliver o Herbert o Cherbury* i Gastell Powis, ac roedd y cyflwyniad yn ymadawiad canolog o safbwynt arddangos y casgliad. Mae yr arddull wedi cael llawer o ganmoliaeth fel ysbrydoliaeth i eraill.

Yn ystod y preswyliad hwn, darlledodd BBC Radio Wales bennod o’i Raglen Gelfyddydau o Gastell Powis, a chyflwynodd dair agwedd ar holl weithiau Eleri; ei defnydd tymor hir o ddefnyddiau drwy bwytho, arlunio a phaentio; y wefr o weld portread Herbert o Cherbury yn ei harddegau, a’i diddordeb parhaus yn y ddelwedd ohono; a’r corff sylweddol o waith newydd a ysbrydolwyd gan ei hymweliad diweddar i India.

Cafodd y cyfle i ymweld âg India yn gynnar yn 2016; treuliodd gyfnod preswyl o bythefnos yn Sanskriti Foundation, Delhi, a threuliodd amser yn Uttarakhand ger troedfryniau’r Himalaya. Cychwynnodd ar daith newydd a arweiniodd at greu’r arddangosfa grŵp 'Indian Threads', a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yn Rhuthun. Cafodd ei chefnogi gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac fe’i hagorwyd ym mis Tachwedd 2018 gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant Cymru. Curadwyd Indian Threads gan Ceri Jones, ac mae’n arddangos gwaith pedwar artist tesctilau o Gymru a dwy o’r India. Mae’r arddangosfa ar daith o hyd, a bydd yn ymddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn ystod tymor yr hydref 2019.

Eleni, dangoswyd arddangosfa monograff ddiweddaraf Eleri, 'Landscape; real and imagined' yn Oriel Thackeray yn Llundain drwy gydol mis Mawrth. Roedd yn orchest o arsylwi a dychymyg; tirluniau llawn mynegiant, golygfeydd mynyddig dramatig a darluniau o hwyrnosau egsotig - mae bron ugain mlynedd ers i Eleri gychwyn arddangos ei gwaith yn Oriel Thackeray mewn cydweithrediad â'r cyfarwyddwr Sarah Macdonald-Brown.

Dangoswyd darnau diweddaraf Eleri am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 'Yn y Dyffryn' ('In the valley'). Mae’r gyfres yn cynnwys darluniau inc ar raddfa fawr ar bapur, ac yn ei geiriau ei hun "Tra mae cynnwys fy ngwaith wastad wedi cael ei ddylanwadu gan dirlun a thraddodiad barddol Cymru, mae'r darluniau hyn sydd yn rhan o gyfres ddiweddar o waith inc ar bapur yn fy herio o safbwynt, maint, techneg, cynnwys emosiynol a tempo. Yn y gweithiau hyn rwyf yn ceisio dehongli haenau ac esgyrn y lle, a chyfleu fy mherthynas i gyda thirlun Maldwyn. Mae trin yr inc ar y papur yn broses hynod gorfforol a llawn hunanfynegiant - wastad yn trafod cydbwysedd a rhythm. Rhyw fath o goreograffi a chreu mapiau personol sydd hefyd yn ddathliad o'r tirlun."

Mae degawd yn gyfnod hir, mae llawer yn digwydd. Mae’r arddangosfa hon yn dangos cynrychiolaeth o weithiau wedi’u cynhyrchu a’u dangos dros y ddegawd hwn.  Mae eraill yn hongian mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat. Heddiw, mae Eleri’n cynhyrchu gwaith trwy gyfrwng tecstilau, paent, inc a phensil o’i stiwdio yng nghanolbarth Cymru, tra hefyd yn atgyweirio capel o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn goruchwylio gofal y fferm deuluol.

Philip Hughes
Medi 2019