Mae Mulberry wedi dewis gwaith celf Eleri Mills ‘Y Winllan’ (Ancestral Landscape) fel prif ddelwedd ar gyfer eu cyflwyniad masnach yn ystod Wythnos Ffashwn Efrog Newydd 7 - 13 Chwefror 2024 yn y siop adrannol Nordstrom. Fe fydd y cyflwyniad yna yn teithio i Texas, California a San Fransisco.

 

MOMA Machynlleth Logo

Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth yn cyhoeddi mai’r artist Eleri Mills yw enillydd Gwobr Glyndŵr 2023.

Mae Medal Glyndŵr, sydd wedi cael ei rhoi bob blwyddyn ers 1994, yn cael ei dyfarnu i bobl flaenllaw ym maes cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth am eu cyfraniad eithriadol i’r celfyddydau yng Nghymru. Rhai o enillwyr blaenorol y wobr hon yw’r artist Syr Kyffin Williams, y bardd Gillian Clarke a’r cyfansoddwr Karl Jenkins.

Bydd y wobr eleni’n cael ei chyflwyno i Eleri yn ystod Gŵyl Machynlleth mewn seremoni gyda’r siaradwr gwadd Mari Griffith am 1pm ddydd Gwener 25 Awst. I gydfynd â hyn, bydd arddangosfa ddethol yn edrych yn ôl ar waith Eleri yn cael ei chynnal yn MOMA Machynlleth rhwng 24 Mehefin a 6 Medi.


Meirch ym Mrycheiniog 2020
Inc, pastel a siarcol ar bapur 59 x 86cm

Prynwyd gan y Brecknock Art Trust ar gyfer casgliad parhaol Amgueddfa ag Oriel Y Gaer, Aberhonddu, Powys

 

25ain Mawrth - 6ed Mai 2023
Arddangosfa unigol ‘Ar y ffîn | Borderland’
‘The Art Shop & Chapel’, No. 8, Cross Street, Y Fenni, NP7 5EH


Dydd Sadwrn 24 Medi 2022

Gweithdy Celf 'Dehongli'r tirlun'
11:00yb - 4:00yh

£80 yn cynnwys cinio a defnyddiau
Drwy gyfrwng y Gymraeg - addas i bawb


Mai 31 - Mehefin 17 2022

Degfed arddangosfa unigol yn Oriel Thackeray, Llundain


Hydref 2021
Enillydd Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2021

David Meredith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams yn cyflwyno’r wobr i Eleri Mills yn Oriel Môn.


11 Medi - 9 Hydref 2021
Oriel Twenty Twenty, Llwydlo
‘Stay close to nature’ - Eleri Mills yn curadu arddangosfa o waith sydd wedi’i ysbrydoli gan y byd naturiol ac wedi’i greu yn naws natur

Yn cynnwys
David Inshaw - paentiadau
Adam Buick - gweithiau mewn clai
Alexander de Vol - gweithiau mewn pren
Astrid de Groot - platiau a llwyau pren
Mandy Coates - basgedi helyg
Melin Tregwynt - blancedi gwlân
Eleri Mills - paentiadau, lluniadau, gwaith pwytho llaw

 
01 This leaf_Y ddeilen hon.png

13 - 15ed Awst 2021
Oriel Twenty Twenty yn cyflwyno ‘Celf yn yr Orendy’ yn Neuadd Pitchford, Sir Amwythig


29 Mai 2021 - 4 Medi 2021
MOMA Machynlleth
'Celf Menywod yng Nghymru - Golwg Bersonol’
detholwr Jill Piercy


Awst 2020 - Mai 2021
Arddangosfa unigol yng Nghanolfan Grefft Rhuthun
Eleri Mills - ‘Egni: degawd o greadigrwydd’
Curadur Philip Hughes

Cyflwyniad gan Philip Hughes


7 Mawrth 2020 - 4 Ebrill 2020
Oriel Twenty Twenty Gallery, Llwydlo
‘Landscape : Real and Imagined’

Mwy…

IMG_3871.JPG

IMG_4287.JPG

Siop ar-lein newydd!


Ion / Chwef 2020 Rhif 149
The Jackdaw - Independent Views on the Visual Arts
Easel Words - bywyd artistig o safbwynt gwledig


24 Tachwedd 2019
Celf a Cherddoriaeth yn Oriel Davies, Drenewydd, Powys
Alis Huws Telynores Swyddogol EUB Tywysog Cymru
Carys Gittins Ennillydd Rhuban Glâs offerynnol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018


Tachwedd / Rhagfyr 2019
Adolygiad o arddangosfa Oriel Davies gan Ellen Bell yn Embroidery - The Textile Art Magazine


Tachwedd 21 2019
Adolygiad o arddangosfa Oriel Davies gan Non Tudur yn Golwg

19+11+Golwg+clawr2.jpg

Tachwedd 2019 Rhif 682
Adolygiad o arddangosfa Oriel Davies gan Rhiannon Parry yn BARN


28 Medi - 18 Rhagfyr 2019
Arddangosfa unigol yn Oriel Davies, Drenewydd, Powys
'Eleri Mills - Egni: degawd o greadigrwydd'
Curadur Philip Hughes

Mwy..


14 Medi - 9 Tachwedd 2019
'Edeifion Indiaidd' yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth

18 11 Indian Threads publicity II.jpg

Awst 2019
’Y Lle Celf’
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Conwy 

 

eisteddfod01.jpeg

12 - 29 Mawrth 2019
Galeri Thackeray Llundain
Arddangosfa unigol ‘Landscape - Real and Imagined’

Mwy…


Tachwedd 2018
Arddangosfa ‘Edeifion Indiaidd’ yng Nghanolfan Grefft Rhuthun Tachwedd 2018. Prosiect yn ymchwilio arferion creadigol yn India a Chymru a’i gefnogi gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig.

18 11 Indian Threads publicity II.jpg

Hydref 2018
Artist preswyl ac arddangosfa ‘pop-up’ yng Nghastell Powis, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru Hydref 2018


Mawrth 2018
Artist â ddewiswyd ar gyfer cymhelliant masnach 'Cymru-Tsieina' Llywodraeth Cymru 2018


22-25 Chwefror 2018     Saatchi Gallery Llundain
Collect - The international Art Fair for Contemporary Objects
Mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Grefft Rhuthun.

 


14 - 31 Mawrth 2017
Galeri Thackeray Llundain
Arddangosfa unigol ‘Borderland’


2-6 Chwefror 2017     Saatchi Gallery Llundain
Collect - The international Art Fair for Contemporary Objects
Mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Grefft Rhuthun.


Mawrth 2016

Artist preswyl yn Sanskriti Kendra, Dehi, a thaith ymchwil i India. Cefnogwyd gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.


Awst 2015
Clawr ‘BEIRDD BRO EISTEDDFOD MALDWYN’


Mawrth 2013
Erthygl 'My life in Art' yn nghylchgrawn  'Artist & Illustrators'  (PDF)


Hydref 2013
WOMEX yng Nghaerdydd

Mae gwaith celf Eleri Mills wedi cael ei ddewis gan Cerys Mathews i fod yn gefndir  i 'Gwlad y Gân' - Cyngerdd Agoriadol WOMEX 13 ((The World Music Expo) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 23ain Hydref 2013

"Mae Eleri Mills yn un o brif artistiaid ein gwlad sy’n gweithio ym maes tirluniau.  Mae ei gwaith yn denu clod, ac i’w weld mewn orielau ac ar furiau, a heno, gan fod Cerys Matthews yn awyddus i weld cyd-chwarae rhwng datblygiad y stori mewn dilyniant o’n cerddoriaeth ac ar y llwyfan, mae Eleri yn cael ei chanfas mwyaf eto. Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio tafluniadau ar raddfa eang o nifer o’i gweithiau….."

David Alston
Cyfarwyddwr Celf, Cyngor Celfyddydau Cymru

Gwlad-y-Gan-poster-RGB-Medium-.257.400.jpg