O’r tir - nocturne 2000
Paent, pwytho llaw ac appliqué ar ddefnydd
45 x 134cm
Mae 'Nocturne' fel arfer yn derm cerddorol ar gyfer unawd piano o'r Cyfnod Rhamantus sydd wedi'i ysbrydoli gan yr hwyrnos. Fe gafodd y gwaith hwn ei greu yn yr un ysbryd i gyfleu y naws ac awyrgylch ryfedd sydd 'ym mrig yr hwyr’.
Gwelir ffurfiau a shapiau amwys yn 'rhwyfo yn yr awel' a chroesi'r gwaith i greu rhyw fath o dirlun troellog breuddwydiol. Mae'r pwytho llaw yn cynnwys nifer o wahanol fathau o edeifion. Mae elfen graffit yr edeifion lîn llwydaidd wedi eu gweithio mewn blociau brâs rhydd ac yn cyfleu antur a symudiad, tra mae'r edeifion sidanaidd wedi eu gweithio yn dynn mewn ffurfiau troellog sydd yn llifo er mwyn dal ac adlewyrchu y golau....gan ychwanegu at ddrama y gwaith.
Of the land - nocturne 2000
Paint, handstitching and appliqué on fabric
45 x 134cm
'Nocturne' is a term commonly used to describe a solo piano piece from the Romantic Period inspired by the night. This work was created in the same spirit and evokes the mood and atmosphere of a twilight setting.....a time of reflection.
Stylized forms combined with ambiguous shapes pass across, suggesting a swirling dreamlike landscape. The hand stitching is worked in various threads - the graphite quality of the grey linen threads are worked in large sketchy blocks suggesting movement and adventure while the silken threads are stitched in dense, continuous, twisting shapes which catch the light .... creating a heightened sense of drama.