Gweithdy 24 Medi 2022

Pontcadfan, Llangadfan,


Dydd Sadwrn 24 Medi 2022

11:00yb - 4:00yh


£80 yn cynnwys cinio a defnyddiau
Drwy gyfrwng y Gymraeg - addas i bawb

Diwrnod o arbrofi a darganfod ffyrdd o ddehongli'r tirlun gyda gwahanol ddulliau o arlunio gan ddechrau drwy roi marciau syml ar bapur.

10:30 Ymgynnull a coffi
11:00 - 12:30 Sesiwn 1: edrych a dehongli delweddau o'r tirlun mewn du a gwyn ar bapur
12:30 - 13:30 Cinio yn y 'Cwpan Pinc' (caffi pentref Llangadfan)
13:30 - 16:00 Sesiwn 2: edrych a dehongli delweddau o'r tirlun mewn lliw ar bapur


Bydd Eleri yn darparu defnyddiau ar eich cyfer, ond os hoffech ddod â'ch defnyddiau eich hunan hefyd, awgrymir i chi ddod â:
• Penseli / miniwr / rhwbiwr / brwshys paent
• Set o ddyfrliwliau - fe all fod yn un syml
• Ffedog / hen ddillad

I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag eleri@elerimills.co.uk