ELERI MILLS

1955                 Ganed yn Sir Drefaldwyn
1974 - 77          Cwrs gradd mewn Celf a Dylunio ym Mholitechnig Manceinion
1978 - 88          Gweithio o stiwdio ym Manceinion
1988 -               Gweithio o stiwdio yn Sir Drefaldwyn
2000 -               Cynyrchiolaeth gyda Oriel Thackeray, Llundain
2010 - 12          Ennillydd Gwobr Llysgenad Creadigol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru
2012                 Arist preswyl ym Mhrifysgol Columbia ac arddangosfa yn Oriel Macy, Efrog Newydd
2016                 Artist preswyl yn Sanskriti Kendra, Delhi, India

Mae Eleri Mills yn byw ac yn gweithio yn Nyffryn Banwy, ble cafodd ei geni a'i magu. Mae hi wedi arddangos yn eang yn y DU a thramor yn cynnwys Amgueddfeydd Celfyddyd Modern Kyoto a Tokyo, Museu Textil d'Indumentaria, Barcelona a'r Museo Nacional de Artes Decorativas, Madrid.

Yn 2010 fe enillodd Wobr Llysgenad Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru gyda phreswyliad o dri mis ym Mhrifysgol Columbia Efrog Newydd ac chyfle i ymddangos yn SOFA NYC (y ffair gelf ryngwladol - Sculpture, Objects and Functional Art) yn Park Avenue Armory.

Mae Eleri wedi arddangos gyda Chanolfan Grefft Rhuthun yn 'Collect' ffair gelf y Cyngor Crefftau o 2004 tan 2008 yn Amgueddfa Victoria ag Albert ac yn ddiweddarach yn 2017 a 2018 yn Oriel Saatchi, Llundain.

Mae ei gwaith celf mewn casgliadau cenedlaethol sy'n cynnwys yr Oriel Gelf Whitworth, Manceinion, Oriel Genedlaethol yr Alban, Caeredyn a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.